Cyfnod Sylfaen 1, 2, 3: | 9.00 yb – 11.45 yb | 1.00 yp – 3.00 yp |
Cyfnod Sylfaen 4, 5, 6: | 9.00 yb – 12.00 canol dydd | 1.00 yp – 3.10 yp |
Ysgol Iau (Bl. 3 – Bl. 6): | 9.00 yb – 12.00 canol dydd | 1.00 yp – 3.30 yp |
Dechrau’r Ysgol
Mae plant yn dechrau yn y Feithrinfa yn rhan amser neu llawn amser y tymor ar ôl iddynt gael eu penblwydd yn dair.
Gwneir trefniadau i blant fynychu’r ysgol am hanner dydd tua diwedd y tymor cyn iddynt allu gael eu derbyn. Cysylltir â’r rheini ar yr achlysuron hynny.
Yn ystod y tymhorau cynnar dilynwn gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen er mwyn cwrdd ag anghenion plant ifanc. Cyflwynir y plentyn i ystod eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn y meysydd canlynol o brofiad dysgu.
Y saith maes hynny o ddysgu a phrofiad yw:
Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Datblygiad Mathemategol
Datblygiad Creadigol
Datblygiad Corfforol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
Datblygu’r Gymraeg