CYTUNDEB CARTREF AC YSGOL
Enw’r Disgybl: _____________________________________________
Dyddiad Geni: __________________
1. Y RHIENI
Ceisiwn:
- Sicrhau bod ein plentyn yn mynychu’r ysgol yn gyson ac ar amser;
- Sicrhau bod ein plentyn wedi ei wisgo/gwisgo’n addas ar gyfer yr ysgol a bod ganddo/ganddi ddillad addas ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff;
- Annog ein plentyn i siarad Cymraeg ar bob cyfle posibl, am mai Categori ‘A’ yw’r ysgol;
- Ddangos diddordeb yng ngwaith ysgol ein plentyn, gan sicrhau bod unrhyw waith cartref yn cael ei ddychwelyd i’r ysgol yn daclus ac ar y diwrnod penodedig;
- Gefnogi canllawiau’r ysgol yn unol a welir yn llawlyfr yr ysgol;
- Gefnogi polisi disgyblaeth yr ysgol er mwyn annog ethos positif a chyfeillgar’
- Geisio osgoi cymryd gwyliau teulu yn ystod amser ysgol lle bo hynny’n bosibl;
- Dalu arian cinio yn brydlon;
- Drosglwyddo gwybodaeth ar unwaith ynglŷn â newidiadau o gyfeiriad cartref, rhif ffôn, lleoliad gwaith a chysylltiadau ar frys.
2. YR YSGOL
Ceisiwn:
- Greu awyrgylch hapus a gofalus, lle mae pob plentyn yn cael ei annog ac ysbrydoli i gyrraedd ei llawn botensial;
- Gynnig addysg yn unol â’r hyn a ddisgrifir yn llawlyfr yr ysgol;
- Gynnig ethos Cymreig a datblygu dwyieithrwydd;
- Hysbysu rhieni am unrhyw bryderon neu broblemau dwys a godir y teimlir allay effeithio ar waith neu ymddygiad eu plant;
- Gyflwyno adroddiad blynyddol ysgrifenedig ar gynnydd y disgybl a chynnig cyfle i’w drafod gyda’r athrawon dosbarth;
- Osod, marcio a monitor rhaglen o waith cartref yn unol â’r canllawiau a geir yn llawlyfr yr ysgol;
- Gynnig ansawdd a safonau uchel yng ngwaith y plant ac ymddygiad;
- Hysbysu rhieni mewn da bryn ynglŷn â digwyddiadau arbennig a fydd yn gysylltiedig â’r ysgol.
Arwyddwyd:________________________________(Rhiant)
________________________________(Prifathro)