Mae gan yr ysgol wisg swyddogol a gellir chael yn ‘Eirlin’ yn Rhydaman. Mae crysau chwys a chrysau polo hefyd ar gael yn cynnwys enw a logo’r ysgol.
Y wisg ysgol yw:
Merched
Crys polo/blows wen
Crys chwys/cardigan
Tei coch/llwyd
Sgert/diwnig lwyd
Ffrog haf
Trowsus llwyd
Sanau neu tights gwyn/llwyd/du
Esgidiau tywyll
Bechgyn
Crys polo
Crys chwys
Tei coch/llwyd
Trowsus llwyd
Trowsus byr (haf)
Sanau gwyn/llwyd/du
Esgidiau tywyll
Nid oes gorfodaeth i wisgo’r wisg swyddogol, heblaw bod y plant yn cynrychioli’r ysgol. Mae gofyn i’r plant wisgo yn gall a thrwsiadus bob amser.