Gwaith Cartref
Dydd Llun – Mathemateg
Dydd Mercher – Darllen
Dydd Gwener – Iaith a Sillafu
LLYFR DARLLEN
Mae angen i’r plant sicrhau eu bod nhw yn dod â’u llyfrau darllen a chofnodion darllen personol i’r ysgol bob wythnos. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn sesiynau Darllen dan Arweiniad drwy’r wythnos, ac rydym yn annog y disgyblion i ddarllen gartref i oedolyn yn rheolaidd, o leiaf unwaith yr wythnos. Rydym hefyd yn annog rhieni i ysgrifennu sylwadau yn y cofnod darllen pan fydd eich plentyn wedi darllen.
Gwish Ysgol
A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn wedi ei labeli yn glir ar ei wisg/gwisg ysgol os gwelwch fod yn dda.
Ymarfer Corff
Fe fydd gwers ymarfer corff i’ch plentyn ym Mlwyddyn 6 ar ddydd Iau. Bydd angen dillad addas (e.e. ‘shorts’, crys -T) ar gyfer y wers. Diolch am eich cydweithrediad
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am waith eich plentyn a / neu les yn yr ysgol, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.
Diolch
Mrs Armstorng